Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Mae agendâu’r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i’w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 8 Mawrth 2016 a dydd Mercher 9 Mawrth 2016

Dydd Mawrth 15 Mawrth 2016 a dydd Mercher 16 Mawrth 2016

Toriad: Dydd Llun 21 Mawrth 2016 – Dydd Mawrth 5 Ebrill 2016

Diddymiad y Cynulliad: 6 Ebrill 2016 – 5 Mai 2016

 


Dydd Mawrth 8 Mawrth 2016

 

Busnes y Llywodraeth

 

Nodwch y bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 13.00

 

·         Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud) 

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016 (15 munud)

·         Cyfnod 4 y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (15 munud)

·         Dadl ar Ail Gyllideb Atodol 2015-16 (30 munud)

·         Dadl ar y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2016-17 (60 munud)

·         Cyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (240 munud)

Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r

atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 y cytunwyd gan y Cynulliad ar 23 Chwefror 2016.



Dydd Mercher 9 Mawrth 2016

 

Busnes y Llywodraeth

 

Nodwch y bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 13.00

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

·         Dadl ar Setliad Llywodraeth Leol 2016-17 (60 munud)

·         Dadl ar Setliad yr Heddlu 2016-17 (30 munud)

·         Cyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (60 munud)

Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r

atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 y cytunwyd gan y Cynulliad ar 23 Chwefror 2016.

 

 

Busnes y Cynulliad

 

·         Cynnig i gymeradwyo diwygiadau i God Ymddygiad yr Aelodau (10 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (60 munud)

·         Dadl Fer - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) (30 munud)



Dydd Mawrth 15 Mawrth 2016

 

Busnes y Llywodraeth

 

Nodwch y bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 13.00

·         Cwestiynau i’r Prif Weinidog (45 munud) 

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:  (cyfanswm o 50 munud)

o   Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016 (10 munud)

o   Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 3) 2016 (10 munud)

o   Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016 (10 munud)

o   Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 5) 2016 (10 munud)

o   Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016 (10 munud)

·         Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (15 munud)

·         Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgoriau Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 (15 munud)

·         Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar gyfer y Bil Menter mewn perthynas â darpariaethau Cod Rheoleiddwyr ac Awdurdod Sylfaenol (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y darpariaethau ym Mil Mewnfudo’r DU mewn perthynas â gofynion iaith Gymraeg ar gyfer gweithwyr yn y sector cyhoeddus (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandum rhif 4) ar gyfer y darpariaethau yn y Bil Menter sy’n ymwneud â Swyddi Sector Cyhoeddus: Cyfyngu ar Daliadau Ymadael (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Tai a Chynllunio sy’n ymwneud â Darpariaethau Prynu Gorfodol ac ati (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y darpariaethau ym Mil Menter y DU mewn perthynas â rhannu data ar gyfer prentisiaethau (30 munud)

·         Dadl ar y cynllun addasu Tai (60 munud)

·         Cyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (60 munud)

 

Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r

atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 y cytunwyd gan y Cynulliad ar 23 Chwefror 2016.



Dydd Mercher 16 Mawrth 2016

 

Busnes y Llywodraeth

 

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

·         Cyfnod 4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (15 munud)


Busnes y Cynulliad

 

·         Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau (5 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ei ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (60 munud)

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Dyfodol ynni craffach i Gymru? (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer – Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)